Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 14 Chwefror 2023
Amser:
09.00 -
09.47
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:
Cadarnhaodd y Trefnydd mai hi fydd yn ateb Cwestiynau’r Prif Weinidog ar ran y Prif Weinidog yr wythnos hon.
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mercher 28 Chwefror 2023
· Datganiad gan Weinidog yr Economi: Strategaeth Sgiliau Sero Net (30 munud)
·
Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasoly Gymraeg ac Addysg: Cymru:
cymuned o gymunedau (30 munud)
·
Dadl: Adroddiad
Blynyddol Estyn
2021-22 (60 munud) Gohiriwyd tan 21 Mawrth
Dydd Mawrth 7 Mawrth 2023
· Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2023 (15 munud).
·
Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru
(15 30 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i symud y Ddadl Aelodau ar 1 Mawrth i 8 Mawrth oherwydd argaeledd Gweinidogion ac, o ganlyniad, cytunodd i wneud y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mercher 1 Mawrth 2023 –
Dydd Mercher 8 Mawrth 2023 –
Dydd Mercher 15 Mawrth 2023 –
Cynhaliodd y Pwyllgor Busnes drafodaeth gychwynnol ar effaith bosibl gweithredu diwydiannol a gyhoeddwyd ar gyfer 15 Mawrth a nododd y darperir rhagor o wybodaeth yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar y goblygiadau ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau, busnes y Cyfarfod Llawn a therfynau amser cyflwyno.
4 Deddfwriaeth
4.1 Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch amserlen y Bil Bwyd (Cymru)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i’r cais i ymestyn yr amserlen ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1 y Bil Bwyd (Cymru) o 28 Ebrill i 12 Mai ac, ar yr amod y bydd y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 14 Gorffennaf 2023.
4.2 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Cafodd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a:
5 Adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy
5.1 Absenoldeb rhiant: materion i'w hystyried
Fel rhan o'i adolygiad o drefniadau pleidleisio drwy ddirprwy, trafododd y Pwyllgor Busnes yr ymatebion i'w ymgynghoriad ag Aelodau ac ystod o faterion yn ymwneud â'r Rheolau Sefydlog dros dro ar bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes, ar sail barn fwyafrifol, i gynnig y dylid gwneud y darpariaethau presennol ar bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant yn barhaol. Datganodd Darren Millar wrthwynebiad y Grŵp Ceidwadol i gadw'r darpariaethau presennol.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig y dylid diwygio uchafswm yr hyd i saith mis ar gyfer mam neu dad baban, partner rhywun sy’n rhoi genedigaeth, rhiant sy’n mabwysiadu neu ofalwr mewn trefniant â rhywun sy’n rhoi genedigaeth ar eu rhan, lle gellir cymryd uchafswm o un mis cyn y dyddiad y disgwylir i’r baban gael ei eni, neu’r dyddiad mabwysiadu, ac uchafswm o chwe mis ar ôl i’r baban gael ei eni neu’r dyddiad mabwysiadu. Nododd y Llywydd nad y Llywydd ddylai benderfynu pa riant sy’n brif ofalwr. Gofynnodd Siân Gwenllian am i ystyriaeth gael ei rhoi i'r trefniadau a fyddai'n ymwneud â genedigaethau cynamserol pan gaiff y canllawiau eu drafftio.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes, os bydd unrhyw amwysedd, y dylai'r Llywydd barhau i allu defnyddio eu disgresiwn wrth benderfynu ar faterion ynghylch cymhwysedd unigolion i gael pleidlais drwy ddirprwy a hyd trefniadau o'r fath. Fodd bynnag, cytunodd y Pwyllgor, pan fydd Aelod neu eu partner yn colli baban yn y groth neu pan fydd baban yn marw ar enedigaeth mai dim ond i benderfynu ar hyd trefniadau pleidleisio drwy ddirprwy ac nid cymhwysedd yr Aelod y dylid defnyddio disgresiwn.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at y mater o ba wybodaeth a gaiff ei chyhoeddi pan fydd trefniant pleidleisio drwy ddirprwy yn cael ei gytuno unwaith y bydd wedi ystyried y posibilrwydd o ymestyn darpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy mewn cyfarfod dilynol.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig y dylid caniatáu pleidleisio drwy ddirprwy mewn pob math o bleidleisio yn y Cyfarfod Llawn a Phwyllgor o'r Senedd Gyfan, gan gynnwys y rhai sy'n gofyn am basio cynnig neu ddatrysiad ar bleidlais lle nad yw nifer yr Aelodau sy'n pleidleisio o blaid yn llai na dwy ran o dair o gyfanswm seddi'r Senedd, neu pan fyddai'r bleidlais drwy ddirprwy yn cyfrif tuag at y nifer sydd ei angen ar gyfer cworwm.